Lleoliad:
Fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 2 Tachwedd 2020
Amser:
10.00 -
12.21
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6472
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mick Antoniw AS (Cadeirydd) Carwyn Jones AS Dai Lloyd AS David Melding AS Alun Davies AS Llyr Gruffydd AS Laura Anne Jones AS David Rees AS |
Tystion: |
Jeremy Miles AS, Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd Sophie Brighouse, Llywodraeth Cymru Katie Wilson, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.
Yn unol â Rheol Sefydlog 17.49, croesawodd y Cadeirydd Aelodau o’r Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, a ymunodd â’r cyfarfod ar gyfer eitemau 1 i 4 ar yr agenda.
2 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y DU: Sesiwn dystiolaeth
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil Marchnad Fewnol y DU.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitem 4
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
4 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y DU: Trafod y dystiolaeth
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiwn gyda’r Cwnsler Cyffredinol a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.
5 Offerynnau negyddol arfaethedig nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3B
5.1 pNeg(5)32 - Rheoliadau Cymwysterau Athrawon (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020
Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, datganodd David Melding fuddiant mewn perthynas ag Eitem 5.1.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon y dylai’r weithdrefn negyddol gael ei chymhwyso.
5.2 pNeg(5)34 – Rheoliadau’r Amgylchedd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon y dylai’r weithdrefn negyddol gael ei chymhwyso.
6 Offerynnau nad ydynt yn codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
6.1 SL(5)637 – Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
7 Offerynnau sy’n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
7.1 SL(5)636 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) (Diwygio) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd, ac i drafod ymateb Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod yn y dyfodol.
7.2 SL(5)639 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
7.3 SL(5)642 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
7.4 SL(5)638 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd, ac i drafod ymateb Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod yn y dyfodol.
7.5 SL(5)641 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd yn yr adroddiad drafft, ynghyd â phwyntiau ychwanegol a nodwyd yn ystod y cyfarfod.
8 Offerynnau sy’n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol
8.1 SL(5)607 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) (Caerffili) 2020
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
8.2 SL(5)611 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2020
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
8.3 SL(5)616 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
8.4 SL(5)630 – Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) 2020
Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru gyda sylwadau pellach.
9 Is-ddeddfwriaeth sy’n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7
9.1 SL(5)635 – Rheoliadau’r Cynllun Seibiant Dyledion (Moratoriwm Lle i Anadlu a Moratoriwm Argyfwng Iechyd Meddwl) (Cymru a Lloegr) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd y bydd yn cyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
10 Offerynnau statudol y mae angen i’r Senedd gydsynio â hwy (Memoranda Cydsyniad Offeryn Statudol)
10.1SICM(5)31 - Rheoliadau Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (Addasiadau Canlyniadol) (Ymadael â’r UE) 2020
Nododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol a’r sylwadau cysylltiedig. Nododd y Pwyllgor hefyd ei bod yn debygol y byddai’r Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn cael ei dynnu’n ôl a’i ail-osod, oherwydd bod y Rheoliadau y mae’r Memorandwm yn ymwneud â hwy wedi cael eu tynnu’n ôl o Senedd y DU ar 20 Hydref.
10.2SICM(5)32 - Rheoliadau Ansawdd a Diogelwch Organau y Bwriedir eu Trawsblannu (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020
Nododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol a’r sylwadau.
10.3SICM(5)33 - Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2020 sy’n cynnwys diwygiadau i adran 155(2) a (3) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Nododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol a’r sylwadau.
10.4SICM(5)34 - Rheoliadau Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (Diwygiadau etc.) (Ymadael â’r UE) 2020
Nododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol a’r sylwadau.
10.5SICM(5)35- Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2020
Nododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol a’r sylwadau.
10.6SICM(5)37 - Rheoliadau Gwastraff a Thrwyddedu Amgylcheddol etc. (Swyddogaethau Deddfwriaethol a Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2020
Nododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol a’r sylwadau.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, mewn perthynas â’r holl Femoranda Cydsyniad Offeryn Statudol a ystyriwyd yn y cyfarfod, i godi pryderon unwaith eto ynghylch dull Llywodraeth Cymru o gyflwyno cynigion cydsynio ar gyfer cynnal dadl arnynt.
11 Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C
11.1WS-30C(5)174 - Rheoliadau Llygryddion Organig Parhaus (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020
Nododd y Pwyllgor y datganiad a’r sylwadau.
11.2WS-30C(5)175 - Rheoliadau Plaladdwyr (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020
Nododd y Pwyllgor y datganiad a’r sylwadau.
11.3WS-30C(5)177 - Rheoliadau Sylweddau sy’n Teneuo’r Osôn a Nwyon Tŷ Gwydr wedi’u Fflworeiddio (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2020
Nododd y Pwyllgor y datganiad a’r sylwadau.
11.4WS-30C(5)178 - Rheoliadau Cymorth Gwladwriaethol (Dirymu etc.) (Ymadael â’r UE) 2020
Nododd y Pwyllgor y datganiad a’r sylwadau cysylltiedig, yn benodol bod anghytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch a oes angen cydsyniad.
11.5WS-30C(5)179 - Rheoliadau Diogelwch ac Ansawdd Gwaed (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020
Nododd y Pwyllgor y datganiad a’r sylwadau.
11.6WS-30C(5)181 - Rheoliadau Meinweoedd Dynol (Ansawdd a Diogelwch at Ddefnydd mewn Bodau Dynol) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020
Nododd y Pwyllgor y datganiad a’r sylwadau.
11.7WS-30C(5)182 – Rheoliadau Organebau a Addaswyd yn Enetig (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020
Nododd y Pwyllgor y datganiad a’r sylwadau.
11.8WS-30C(5)183 - Rheoliadau Cynnyrch Organig (Cynhyrchu a Rheoli) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020
Nododd y Pwyllgor y datganiad a’r sylwadau.
11.9WS-30C(5)184 – Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020
Nododd y Pwyllgor y datganiad a’r sylwadau.
11.10WS-30C(5)186 – Rheoliadau Iechyd Planhigion (Cyflyrau Ffytoiechydol) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020
Nododd y Pwyllgor y datganiad a’r sylwadau.
11.11WS-30C(5)189 – Rheoliadau Rheoli Mercwri (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020
Nododd y Pwyllgor y datganiad a’r sylwadau.
11.12WS-30C(5)190 - Rheoliadau REACH etc. (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2020
Nododd y Pwyllgor y datganiad a’r sylwadau. Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad pellach ynghylch y datganiad.
12 Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol rhwng y Senedd a Llywodraeth Cymru: Adroddiad Blynyddol
Nododd y Pwyllgor adroddiad blynyddol cyntaf Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol.
13 Papurau i’w nodi
13.1Llythyr at y Llywydd: Craffu ar reoliadau Covid-19
Nododd y Pwyllgor y llythyr at y Llywydd.
13.2Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Y Cytundeb Amlinellol Fframwaith drafft ar gyfer Cynllunio o ran Sylweddau Peryglus
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.
13.3Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol: Drafftio Biliau Cymru
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol.
13.4Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol: Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol.
14 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
15 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif 2): Trafod yr adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif 2), a chytunodd arno.
16 Craffu ar reoliadau sy’n deillio o ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd - Protocol rhwng Llywodraeth Cymru a Phwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Senedd Cymru
Bu’r Pwyllgor yn ystyried y protocol diwygiedig drafft mewn perthynas â chraffu ar reoliadau sy’n deillio o ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd, a chytunodd arno.